Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (Dinasoedd Bwyd Cynaliadwy gynt) yw un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf heddiw ac rydym yn falch iawn bod Bwyd Caerdydd yn un o’i aelodau sefydlu. Mae ei rwydwaith yn dwyn ynghyd bartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, rhanbarthau a siroedd ar hyd a lled y DU sy’n symbylu arloesedd ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy.
Synnwyr Bwyd Cymru yw partner cenedlaethol Llefydd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac mae gennym uchelgais i weld partneriaeth fwyd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gan greu rhwydwaith a fyddai’n sylfaen ar gyfer datblygu’r weledigaeth, yr isadeiledd a’r gweithredu sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru yn addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi’r saith aelod cyfredol yng Nghymru, sef Bwyd Caerdydd, Bwyd y Fro, Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Bwyd RCT, Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, Partneriaeth Bwyd Gogledd Powys a Bwyd Sir Gâr Fwyd yn Sir Gaerfyrddin. Rydym hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu mwy o Leoedd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda Thorfaen ac Abertawe wrth i’r siroedd hynny barhau i ddatblygu’u partneraiethau gan weithio tuag at ddod yn aelodau llawn o’r rhwydwaith.
Byddai Synnwyr Bwyd Cymru yn annog ardaloedd a chymunedau ar draws Cymru i ymuno gan helpu i arwain y ffordd o ran sefydlu a thyfu seilwaith sy’n seiliedig ar le, gan gyfrannu at ddatblygu ‘mudiad bwyd da’ a fydd o fudd i iechyd, economi, cynaliadwyedd a ffyniant cymdeithasol cymunedau ledled Cymru.
Cydnabu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd sefydlu Partneriaethau Bwyd Cynaliadwy newydd yng Nghymru yn 2020, a rhoddwyd statws blaenoriaeth un i Synnwyr Bwyd Cymru a Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i ddatblygu partneriaethau bwyd lleol ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.
Gwyliwch fideo sy’n rhoi blas i chi o Leoedd Bwyd Cynaliadwy:
I gysylltu â foodsensewales @wales.nhs.org.